Lleolir Alltwalis ar yr A485 ar waelod y bryn a roddodd ei enw i’r pentref: Yr Allt Walis. Mae tua thri deg tŷ yn y pentref gyda nifer o ffermydd o’i gwmpas. Mae’r mwyafrif o’r gweithgareddau economaidd yn ardal y pentref yn amaethyddol gyda ffermio defaid a llaeth. Mae llawer o breswylwyr Alltwalis yn gweithio yn y dref cyfagos sef Caerfyrddin.
Mae’r Capel a adeiladwyd yn 1897 yn lle un hŷn (nawr ar gau), yn edrych dros ganol y pentref. Drws nesaf i’r Capel yw’r Mason’s Arms,tafarn gwledig cyfeillgar. Cyferbyn â’r Capel a’r tafarn yw’r Ysgol. Adeiladwyd hi yn 1881 ac ysgol gynradd gymunedol oedd hi tan Haf 2003. Mae’n cael ei defnyddio fel Canolfan Gymunedol nawr.
Adeilad amlwg arall ar y prif ffordd yw’r Hen Tollborth a adeiladwyd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe’i defnyddiwyd i gasglu tollau o deithwyr a masnachwyr a oedd ar eu ffordd i’r hen dref farchnad, Caerfyrddin. Jyst i’r de o’r tolldy mae cyfadeilad o dri chartref preswyl. Mae’r cartrefi hyn yn cynnwys yr adeilad a oedd yn felin wlân. Enw’r felin oedd ‘The Factory’. Adeiladwyd y felin yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac fe’i lleolwyd hi’n gyfleus ar ochr Caerfyrddin y tolldy i osgoi talu tollau.

