Rydym i gyd yn hoffi gwasanaethau cyflenwad trydan a chyfathrebu ond yma yn y cefn gwlad, weithiau maent yn ein cyrraedd mewn ffordd braidd yn rhy amlwg. Mae’r strydoedd a lonydd yn llawn o bolion hyll â gwifrau a cheblau yn hongian ymhobman. Rydych yn dod yn ymwybodol iawn o’r problemau yma os ydych yn ceisio tynnu lluniau atyniadol o’n pentrefi ni. Mae polion, ceblau ac insiwleiddion yn llenwi pob golygfa.
Rwy wedi cysylltu ag Western Power yn ddiweddar am y pwnc yma a thynnu’u sylw at rai hen bolion diddefnydd sy heb gael eu symud o Heol y Castell, Pencader. 
Heddiw dim ond 24 awr wedi dosbarthu fy llythyr, mae’r tri pholyn i gyd wedi mynd! Tynnodd peirianwyr WPD y polion allan heddiw a chyn bo hir byddant yn trwsio wyneb yr heol.
Gosodwyd polion newydd yn 1994 ond achos bod yr hen rai wedi cael eu defnyddio ar gyfer pŵer, ffonau a goleuo’r stryd, osgôdd y cwmni a oedd yn gyfrifol am eu symud terfynol, ei ddyletswydd. Byddai BT wedi bod yr olaf i symud ei offer o’r polion ond gwnaethant byth dychwelyd i’w tynnu allan. Erbyn hyn mae cofnodion wedi mynd a byddai hi wedi bod yn anodd ei gael i weithredu. Hyd yn oed digwyddodd hyn cyn i WPD gymryd cyfrifoldeb am ein rhwydwaith pŵer, maent wedi camu i mewn yn ddewr a hael a helpu gwella’n pentref ni.
Mae fy niolchiadau diolchgar yn mynd i Brif Weithredwr Robert Symons, at bwy gyfeiriais fy llythyr, Dave Brown, Rheolwr Dosbarthu Gorllewin Cymru, am drefnu i’r gwaith gael ei wneud mor gyflym ac effeithlon ac Arwyn Jones a’i ddynion a wnaeth y gwaith.
Ydy unrhyw un wedi sylwi ar unrhyw enghreifftiau eraill o bolion allan o arfer yn yr ardal yma? Os ydy, gadewch i mi wybod, os gwelwch yn dda, gan sylwi ar y post yma. Efallai gallwn gael rhywbeth ei wneud amdani.
