Archifau

Categorïau

free counters

Sefydliad y Merched

Cynhelir cyfarfodydd WI Pencader yn y Pafiliwn am 2yh ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis.

Rydym bob blwyddyn â rhaglen ddiddorol ac amrywiol o ddigwyddiadau, gan gynnwys sgyrsiau ar amrywiol bynciau, arddangosfeydd crefft ac ymweliadau â mannau diddorol.  Does dim angen dweud bod ein teithiau gan amla’n cynnwys cinio neu swper! Yn ogystal â’n cyfarfodydd a’n teithiau, rydym hefyd yn cael cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau eraill a drefnir gan Ffederasiwn Sir Gaerfyrddin.  Mae’r rhain yn cynnwys gweithgareddau corfforol megis cerdded, erobeg-dŵr, dartiau a bowlio awyr-agored, nosweithiau cwis, scrabble, diwrnodau crefft creadigol ac ymweliadau â theatrau Caerdydd a Llundain.  Ceir nifer o gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd a chystadlu mewn cystadlaethau crefft, coginio, trefnu blodau ayb.

‘Rydym bob amser yn falch i groesawu ymwelwyr, felly dewch draw i ymuno a ni os medrwch.