Archifau

Categorïau

free counters

Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch

Bydd y cyfarfod nesaf ar Dydd Llun 10 Mehefin am 7:30 pm, yn y Pafiliwn. Croeso i bawb.

Cardiau Cyfarch

Yn dilyn llwyddiant cyfres y llynedd, mae’r grŵp adfywio yn paratoi i gynhyrchu ail gasgliad o gardiau cyfarch o Bencader yn ddiweddarach eleni.

Byddem yn croesawu ffotograffau gan darllenwyr i’w ystyried, felly anfonwch eich lluniau ar e-bost at janegriffithsuk@btinternet.com.  Byddem yn falch o dderbyn delweddau a fyddai’n gwneud cerdyn deniadol, ond cofiwch bod yn rhaid ei fod wedi ei dynnu o fewn ardal Pencader.

BWRW BOL!

Wrth i ni gychwyn ail ddegawd y Grŵp Adfywio, teimlwn ei bod yn adeg briodol i roi cyfle i ddarllenwyr fynegi eu sylwadau, gofidiau neu farn yn ymwneud a’r gymuned yn Clecs Bro Cader.

Er enghraifft, y posibiliad y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cau’r toiledau cyhoeddus – gan grybwyll arbed arian. Os yw hynny’n wir, pa gyfiawnhad sydd dros gynnau’r holl oleuadau stryd rhwng canol nos a 5yb? Mae llawer ohonynt yn ddiangen ee. Ffordd Dolgran. Dylid newid yr amseryddion – un gost, a gallai’r arian a arbedwyd gael ei fuddsoddi’n ddoeth a defnyddiol mewn toiledau cyhoeddus. Maent yn llawer mwy defnyddiol na pholyn lamp – heblaw i gŵn!

Gallai’r pynciau trafod eraill, ymwneud a glendid y strydoedd, colli’r Swyddfa Bost, y gwelliant enfawr yn ymddangosiad yr ardal o amgylch a thu blaen y Pafiliwn, ac ymddangosiad y cornel chwarae sydd bob amser yn boblogaidd. Mae’r rhestr o bynciau’n ddiddiwedd……..

Sylwadau os gwelwch yn dda i Golygydd – ebost: editor@ffermffynnonwen.plus.com neu Stuart Wilson – ffôn: 01559 384709 - neu adael sylw isod.

Cyfarfod Blynyddol

Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch ar Ionawr 9fed 2012. Rhestrodd y cadeirydd gyflawniadau’r Grŵp yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a diolch i bob un a oedd wedi helpu mewn unrhyw ffordd (gweler yr adroddiad ar wahân). Derbyniwyd y cyfrifon blynyddol. Etholwyd y canlynol fel swyddogion am 2012 –

Cadeirydd             Stuart Wilson

Is-gadeirydd        Eileen West

Ysgrifennydd       Jane Griffiths

Trysorydd            John Radford

Cytunwyd y dylai’r cyfansoddiad gael ei ddiwygio. Cwblhawyd y cyfarfod â lluniaeth.

Cardiau cyfarch

Cards for sale

Gwefan newydd Pencader

CROESO I WEFAN NEWYDD PENCADER A’R CYLCH

Diolch am ymweld â gwefan wedi’i hailgynllunio newydd Pencader a’r Cylch

Mae’n diolchiadau ni’n mynd i Clare a Lewis yn CAVS Web Services am eu gwaith o wneud y trawsnewid yn bosibl.

Mae’r rhan fwyaf o beth oedd ar y safle gwreiddiol, yn dal ar gael ond y newid gwir arwyddocaol yw bod rheolaeth lawn y cynnwys gan y Grŵp nawr. Gall gwirfoddolwyr o’r Grŵp a sefydliadau lleol eraill adio gwybodaeth a diweddaru eitemau newyddion nawr heb gost neu’r angen am sgiliau uwch. Gall sylwadau gael eu gwneud gan bob ymwelydd i’r tudalennau.

Bydd hyn yn gwneud gwefan Pencader a’r Cylch yn fwy rhyngweithiol, gan adlewyrchu mwy am ein cymuned, ei phobl, gweithgareddau a gwasanaethau.

Ni fwriedir y bydd y Wefan newydd hon yn cymryd lle Clecs Bro Cader mewn unrhyw ffordd. Serch hynny gallai eitemau o Glecs ymddangos ar y safle ac y bydd copïau rhifynnau wedi eu cyhoeddi ar gael mewn fformat PDF i’w dadlwytho.

Mae croeso i awgrymiadau a chyfraniadau i wella’r Wefan. Os ydych yn trefnu grŵp neu weithgaredd lleol yng nghymuned Llanfihangel-ar-arth a hoffai hysbys parhaol amdano neu’r gallu i bostio diweddariadau rheolaidd, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda. Hoffem yn fawr hefyd ehangu ein Horiel â’ch ffotos o ddigwyddiadau cymunedol, golygfeydd lleol neu luniau hanesyddol.

Cysylltwch â ni ar webmaster@pencader.org.uk neu gan ddefnyddio’r dudalen ‘Cysylltwch â ni’ ar y wefan os gwelwch yn dda.

Os ydych yn cysylltu â ni a pheidio â chael ymateb, rydym yn ymddiheuro. Mae’n dal i fod dyddiau cynnar i’r fenter hon ac rydym yn dal i ddysgu a threfnu. Rydym yn gwerthfawrogi’ch holl adborth achos bydd hwn yn helpu gwneud y wefan yn llwyddiant.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’ch ymweliad. Cadwch ddolen i’r safle hwn, os gwelwch yn dda, ar eich bar offer ‘Ffefrynnau’ neu ‘Dolennau’ fel gallwch ddychwelyd yma’n ddiweddar.