Archifau

Categorïau

free counters

Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch

Bydd y cyfarfod nesaf ar Dydd Llun 10 Mehefin am 7:30 pm, yn y Pafiliwn. Croeso i bawb.

Digwyddiad Nesaf Clwb Hanes Lleol

Nos Iau Mai 30ain bydd ffilm (yn Gymraeg) am ‘Patagonia’

Ar Fehefin 13eg bydd Catrin Stevens yn siarad (yn Gymraeg) am Arferion Caru: Storiau Llofft Stabal

Faciwîs O Lerpwl Yn Dod ‘Nôl I Bencader

Roedd William ac Edward Andrews ymysg y cannoedd o blant a gollodd eu cartrefi a’u hysgolion yn Lerpwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cawsant eu hanfon i wahanol rannau o Orllewin Cymru a bu’r ddau frawd yn ffodus i gael eu hanfon i Bencader rhwng 1941 a 1944. Buont yn byw yn y tŷ a elwir Rhianfa heddiw ar ffordd Caerfyrddin, gan fynychu ysgol ar wahân tu cefn Capel Tabernacl.

Er taw bechgyn ifanc oeddynt ar y pryd, mae ganddynt atgofion hapus o’u cyfnod yma, ac maent yn dod yn ôl i ymweld â’r ardal yn gyson. Maent hefyd wedi creu DVD yn sôn am y llefydd a’r digwyddiadau a fu’n bwysig iddynt yn y cyfnod.

Mi wnaethon gysylltu ar ôl gweld nodyn ar y wefan gymunedol newydd yn holi am wybodaeth ar y Faciwîs o Lerpwl ym Mhencader, a chael sgwrs ddifyr gyda’r Ysgrifennydd.

O ddeall eu bod yn mynd i ymweld â’r ardal yn y gwanwyn, awgrymwyd y dylent fynychu’r cyfarfod nesaf o’r Grŵp Adfywio ym mis Ebrill a rhoi sgwrs am eu hatgofion o’r pentref yn y cyfnod. Os oeddech chi hefyd yn faciwî yma, neu adnabod rhywun a fu, neu os hoffech glywed mwy, mae croeso i chi ddod draw i’r Pafiliwn ar nos Lun yr 8fed o Ebrill 2013 am 7:30yp.

Eisteddfod Leol

Cynhelir Eisteddfod bob blwyddyn yn y gymuned yn gynnar yn y Gwanwyn

Rydym yn cynllunio 2014 nawr!

I weld yr adroddiad a’r canlyniadau am 2013 CLICIWCH YMA

Crowd mawr ym Mhencader – Newyddion Lleol 1956

Mae’r eitem / dudalen hon yn cael ei chyfieithu a dylai fod ar gael yn Gymraeg cyn bo hir.

BWRW BOL!

Wrth i ni gychwyn ail ddegawd y Grŵp Adfywio, teimlwn ei bod yn adeg briodol i roi cyfle i ddarllenwyr fynegi eu sylwadau, gofidiau neu farn yn ymwneud a’r gymuned yn Clecs Bro Cader.

Er enghraifft, y posibiliad y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cau’r toiledau cyhoeddus – gan grybwyll arbed arian. Os yw hynny’n wir, pa gyfiawnhad sydd dros gynnau’r holl oleuadau stryd rhwng canol nos a 5yb? Mae llawer ohonynt yn ddiangen ee. Ffordd Dolgran. Dylid newid yr amseryddion – un gost, a gallai’r arian a arbedwyd gael ei fuddsoddi’n ddoeth a defnyddiol mewn toiledau cyhoeddus. Maent yn llawer mwy defnyddiol na pholyn lamp – heblaw i gŵn!

Gallai’r pynciau trafod eraill, ymwneud a glendid y strydoedd, colli’r Swyddfa Bost, y gwelliant enfawr yn ymddangosiad yr ardal o amgylch a thu blaen y Pafiliwn, ac ymddangosiad y cornel chwarae sydd bob amser yn boblogaidd. Mae’r rhestr o bynciau’n ddiddiwedd……..

Sylwadau os gwelwch yn dda i Golygydd – ebost: editor@ffermffynnonwen.plus.com neu Stuart Wilson – ffôn: 01559 384709 - neu adael sylw isod.

Olew-Clwb

Olew Clwb

Sefydliad y Merched, Pencader

Llongyfarchiadau i Mary Thomason, Betty Hilliard a Janet Rollinson am gystadlu yn Sioe Sefydliad y Merched yng Nghaerfyrddin yn yr haf. Thema’r sioe oedd “Speed”. Enillodd Mary’r wobr gyntaf am ei arddangosyn blodau a oedd yn cynnwys olwyn beic plentyn, a chafodd Janet gymeradwyaeth uchel am ei mwclis gleiniog!
Ceir llawer o gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd ac ymgeisio mewn cystadlaethau o fewn y W.I., felly os yr ydych yn ystyried cychwyn ar rywbeth newydd, dewch i ymuno a ni yn y Pafiliwn am 2:00yp ar y dydd Mawrth cyntaf o bob mis.
Cyfarfodydd yr Hydref
Mawrth 2il Hydref:
y siaradwraig fydd yr artist Elizabeth Brown.
Mawrth 6ed Tachwedd:
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, cwis a the prynhawn.
Gobethio y gwelwn chi yno!

Meet the oldest landlady in Wales – serving beer since 1955 – Need to Read – News – WalesOnline

Meet the oldest landlady in Wales – serving beer since 1955 – Need to Read – News – WalesOnline.

Pencader Mums put their heart in to art

Pencader Mums put their heart in to art.