Archifau

Categorïau

free counters

Cardiau Cyfarch

Yn dilyn llwyddiant cyfres y llynedd, mae’r grŵp adfywio yn paratoi i gynhyrchu ail gasgliad o gardiau cyfarch o Bencader yn ddiweddarach eleni.

Byddem yn croesawu ffotograffau gan darllenwyr i’w ystyried, felly anfonwch eich lluniau ar e-bost at janegriffithsuk@btinternet.com.  Byddem yn falch o dderbyn delweddau a fyddai’n gwneud cerdyn deniadol, ond cofiwch bod yn rhaid ei fod wedi ei dynnu o fewn ardal Pencader.

Eisteddfod Leol

Cynhelir Eisteddfod bob blwyddyn yn y gymuned yn gynnar yn y Gwanwyn

Rydym yn cynllunio 2014 nawr!

I weld yr adroddiad a’r canlyniadau am 2013 CLICIWCH YMA

Cardiau cyfarch

Cards for sale

Neuadd yr Ysgol

Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Neuadd yr Ysgol, Llanfihangel-ar-arth, ar Hydref 25ain, o dan gadeiryddiaeth y Parch Bonnie Timothy. Daeth dros 30 o bobl i’r cyfarfod ac fe esboniwyd ein bod bellach mewn sefyllfa wahanol iawn, gan fod y Neuadd nawr yn eiddo i’r pentre a’r gymuned. Roedd tipyn o gymalau yn ein cyfansoddiad oedd yn berthnasol i’r amser pan oeddem yn atebol i Esgobaeth Ty Ddewi, ac fe newidiwyd y cymalau hynny i gyd gan nad ydym yn atebol i neb bellach ond i bentrefwyr Llanfihangel. Diolchwyd i bawb a oedd wedi cyfrannu mor hael tuag at y gronfa i brynu’r adeilad ac mae llythyr personol o ddiolch wedi mynd at bob cyfrannwr. Etholwyd Pwyllgor canolog a swyddogion ar gyfer y flwyddyn newydd fel a ganlyn:-

Cadeirydd  -  Esta Jones

Is-gadeirydd – Eleri Retallick

Trysorydd – Wendy Brooker

Ysgrifennydd – Meinir Ffransis

Pwyllgor – Margaret Rees, Elinor Flello, Bonnie Timothy, Ffred Ffransis, Catrin Thomas (i gynrychioli’r Urdd), a Shân Phillips (i gynrychioli’r Ysgol Sul). Gofynwyd hefyd am gynrychiolydd o Bwyllgor y Cae Chwarae. Mae hefyd ar y pwyllgor dri cynrychiolydd o hen bwyllgor Neuadd Lés Llanfihangel, sef Calvin Griffiths, Mair Wilson a Myfanwy Davies ac mae gan yr Eglwys leol hefyd yr hawl i benodi 3 cynrychiolydd. Penderfynwyd yn y cyfarfod blynyddol ein bod yn gofyn i grwp o bobl ddawnus yn y maes adeiladu a chynllunio i fod ar weithgor adeilad fydd yn casglu syniadau a chynlluniau am sut i wella’r adeilad ar gyfer y dyfodol. Cadeirydd y gweithgor hwn fydd Calvin Griffiths, ac mae Eddie Carman, Alun Davies ac Ieuan Walters wedi cytuno i gynorthwyo yn y maes hwn. Mae peth gwaith sydd yn angenrheidiol i’w wneud ar yr adeilad, ond mae hefyd nawr yn ein cyfrifoldeb ni i wella a datblygu’r lle at ein pwrpasau penodol ni. Mae’r dyfodol yn gynhyrfus a gobeithiwn gael cefnogaeth a chymorth y pentre cyfan i fynd ymlaen gyda’r gwaith.