Archifau

Categorïau

free counters

Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch

Bydd y cyfarfod nesaf ar Dydd Llun 10 Mehefin am 7:30 pm, yn y Pafiliwn. Croeso i bawb.

Digwyddiad Nesaf Clwb Hanes Lleol

Nos Iau Mai 30ain bydd ffilm (yn Gymraeg) am ‘Patagonia’

Ar Fehefin 13eg bydd Catrin Stevens yn siarad (yn Gymraeg) am Arferion Caru: Storiau Llofft Stabal

Eisteddfod Leol

Cynhelir Eisteddfod bob blwyddyn yn y gymuned yn gynnar yn y Gwanwyn

Rydym yn cynllunio 2014 nawr!

I weld yr adroddiad a’r canlyniadau am 2013 CLICIWCH YMA

Sefydliad y Merched, Pencader

Llongyfarchiadau i Mary Thomason, Betty Hilliard a Janet Rollinson am gystadlu yn Sioe Sefydliad y Merched yng Nghaerfyrddin yn yr haf. Thema’r sioe oedd “Speed”. Enillodd Mary’r wobr gyntaf am ei arddangosyn blodau a oedd yn cynnwys olwyn beic plentyn, a chafodd Janet gymeradwyaeth uchel am ei mwclis gleiniog!
Ceir llawer o gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd ac ymgeisio mewn cystadlaethau o fewn y W.I., felly os yr ydych yn ystyried cychwyn ar rywbeth newydd, dewch i ymuno a ni yn y Pafiliwn am 2:00yp ar y dydd Mawrth cyntaf o bob mis.
Cyfarfodydd yr Hydref
Mawrth 2il Hydref:
y siaradwraig fydd yr artist Elizabeth Brown.
Mawrth 6ed Tachwedd:
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, cwis a the prynhawn.
Gobethio y gwelwn chi yno!

Dewch i gyfarfod â’ch Cynghorydd Sir

Byddaf yn y Pafiliwn – Pencader

NOS FERCHER CYNTAF  POB MIS

Rhwng 6 a 7yh

NID AWST

Galwch am sgwrs 1/1 ar unrhyw fater

Neu ffoniwch ar – 077921 99161

Bydd yr Heddlu’n bresennol hefyd i drafod unrhyw pryderon

Diolch yn fawr Western Power

Rydym i gyd yn hoffi gwasanaethau cyflenwad trydan a chyfathrebu ond yma yn y cefn gwlad, weithiau maent yn ein cyrraedd mewn ffordd braidd yn rhy amlwg. Mae’r strydoedd a lonydd yn llawn o bolion hyll â gwifrau a cheblau yn hongian ymhobman. Rydych yn dod yn ymwybodol iawn o’r problemau yma os ydych yn ceisio tynnu lluniau atyniadol o’n pentrefi ni. Mae polion, ceblau ac insiwleiddion yn llenwi pob golygfa.

Rwy wedi cysylltu ag Western Power yn ddiweddar am y pwnc yma a thynnu’u sylw at rai hen bolion diddefnydd sy heb gael eu symud o Heol y Castell, Pencader.

Heddiw dim ond 24 awr wedi dosbarthu fy llythyr, mae’r tri pholyn i gyd wedi mynd! Tynnodd peirianwyr WPD y polion allan heddiw a chyn bo hir byddant yn trwsio wyneb yr heol.

Gosodwyd polion newydd yn 1994 ond achos bod yr hen rai wedi cael eu defnyddio ar gyfer pŵer, ffonau a goleuo’r stryd, osgôdd y cwmni a oedd yn gyfrifol am eu symud terfynol, ei ddyletswydd. Byddai BT wedi bod yr olaf i symud ei offer o’r polion ond gwnaethant byth dychwelyd i’w tynnu allan. Erbyn hyn mae cofnodion wedi mynd a byddai hi wedi bod yn anodd ei gael i weithredu. Hyd yn oed digwyddodd hyn cyn i WPD gymryd cyfrifoldeb am ein rhwydwaith pŵer, maent wedi camu i mewn yn ddewr a hael a helpu gwella’n pentref ni.

Mae fy niolchiadau diolchgar yn mynd i Brif Weithredwr Robert Symons, at bwy gyfeiriais fy llythyr, Dave Brown, Rheolwr Dosbarthu Gorllewin Cymru, am drefnu i’r gwaith gael ei wneud mor gyflym ac effeithlon ac Arwyn Jones a’i ddynion a wnaeth y gwaith.

Ydy unrhyw un wedi sylwi ar unrhyw enghreifftiau eraill o bolion allan o arfer yn yr ardal yma? Os ydy, gadewch i mi wybod, os gwelwch yn dda, gan sylwi ar y post yma. Efallai gallwn gael rhywbeth ei wneud amdani.

Sefydliad y Merched, Pencader

Cynhelir cyfarfodydd WI Pencader yn y Pafiliwn am 2yh ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis. (D.S. Bydd cyfarfod cyntaf 2012 ar y 10fed o Ionawr)